Judges 1

Llwythau Israel yn ymladd y Canaaneaid

Llwythau Jwda a Simeon yn dal Adoni-besec

1Ar ôl i Josua farw, dyma bobl Israel yn gofyn i'r Arglwydd, “Pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad ar y Canaaneaid?”

2A dyma'r Arglwydd yn ateb, “Llwyth Jwda fydd yn arwain. A dw i'n mynd i roi'r tir iddyn nhw.”

3Dwedodd arweinwyr llwyth Jwda wrth arweinwyr llwyth Simeon, “Dewch i'n helpu ni i ymladd y Canaaneaid sy'n byw ar y tir sydd wedi ei roi i ni. Gwnawn ni eich helpu chi wedyn.”

Felly dyma'r dynion o lwyth Simeon yn mynd gyda nhw. 4Dyma lwyth Jwda yn ymosod, a dyma'r Arglwydd yn gwneud iddyn nhw drechu'r Canaaneaid a'r Peresiaid. Cafodd deg mil o filwyr y gelyn eu lladd yn Besec. 5Yn ystod y frwydr dyma nhw'n dod o hyd i Adoni-besec, y brenin. 6Ceisiodd hwnnw ddianc, ond llwyddon nhw i'w ddal e. A dyma nhw'n torri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd.

7“Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi talu'n ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw. 8Roedd byddin Jwda wedi ymosod ar Jerwsalem, ei dal, lladd ei phobl, a llosgi'r ddinas yn llwyr.

Llwyth Jwda yn concro Hebron

9Nesaf, dyma byddin Jwda yn mynd i ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir yn y gorllewin. 10Dyma nhw'n ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba
1:10 Ciriath-arba sef, “Dinas o bedair (rhan)”
), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai.

Othniel yn concro Debir

(Josua 15:13-19)

11Wedyn dyma nhw'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer). 12Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” 13Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb) wnaeth goncro'r dref, a rhoddodd Caleb ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. 14Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, gofynnodd ei thad Caleb iddi, “Beth sy'n bod?” 15A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

Llwythau Jwda a Benjamin yn ennill brwydrau

16Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho
1:16 Jericho Hebraeg, “Tref y Coed Palmwydd”, enw arall ar Jericho.
gyda phobl Jwda a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef.

17Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath. Dyma nhw'n lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef Dinistr).

18Yna dyma lwyth Jwda yn concro Gasa, Ashcelon ac Ecron, a'r tiroedd o'u cwmpas nhw. 19Roedd yr Arglwydd yn helpu Jwda. Dyma nhw'n llwyddo i goncro'r bryniau. Ond roedden nhw'n methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.

20Cafodd tref Hebron ei rhoi i Caleb, fel roedd Moses wedi addo. Llwyddodd Caleb i yrru allan tri clan o bobl oedd yn ddisgynyddion i Anac.

21Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebwsiaid o Jerwsalem. Mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw yn Jerwsalem gyda phobl llwyth Benjamin hyd heddiw.

Llwythau Effraim a Manasse yn concro Bethel

22Dyma'r Arglwydd yn helpu disgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse) pan wnaethon nhw ymosod ar Bethel. 23Dyma nhw'n anfon ysbiwyr i'r dref (oedd yn arfer cael ei galw yn Lws). 24Tra roedd yr ysbiwyr yn gwylio'r dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn i'r dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di.” 25Dangosodd y dyn iddyn nhw sut allen nhw fynd i mewn. Felly dyma nhw'n ymosod ac yn lladd pawb yn y dref. Dim ond y dyn oedd wedi dangos y ffordd i mewn iddyn nhw, a'i deulu, gafodd fyw. 26Aeth y dyn hwnnw i fyw i ardal yr Hethiaid, ac adeiladu tref yno. Galwodd y dref yn Lws, a dyna'r enw arni hyd heddiw.

Y bobloedd oedd heb eu gyrru allan o'r tir

27Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach a'u pentrefi, na Dor, Ibleam a Megido a'r pentrefi o'u cwmpas chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud o'r ardaloedd hynny. 28Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.

29A wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Roedden nhw'n byw gyda nhw yn Geser.

30Wnaeth llwyth Sabulon ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Citron a Nahalal. Roedd y Canaaneaid yn byw gyda nhw fel caethweision.

31Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob. 32Felly roedd llwyth Asher yn byw yng nghanol y Canaaneaid i gyd, am eu bod heb eu gyrru nhw allan.

33Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhw'n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid.

34Cafodd llwyth Dan eu gorfodi gan yr Amoriaid i fyw yn y bryniau. Cawson nhw eu rhwystro rhag dod i lawr i fyw ar yr arfordir. 35Roedd yr Amoriaid yn benderfynol o aros yn Har-cheres, Aialon, a Shaalfîm hefyd. Ond dyma lwythau meibion Joseff yn ymosod yn galed, a dyma nhw yn gorfodi'r Amoriaid i fod yn gaethweision iddyn nhw. 36Roedd y ffin gyda'r Amoriaid yn rhedeg o Fwlch y Sgorpion ac i fyny heibio Sela.

Copyright information for CYM